Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Gofrestr Elusennau

Mae Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Chyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r Gofrestr Elusennau.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

  • WCAG 1.3.1 Info and Relationships: Nid oes gan yr iframe o amgylch y dudalen ffrâm hygyrch – Disgwylir atgyweiriad erbyn 02/10/2025
  • WCAG 2.1.1 Keyboard: Ni fydd cwcis bob amser yn derbyn ffocws bysellfwrdd – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 1.4.10 Reflow: Bydd chwyddo ar sgriniau bach yn galw am sgrolio fertigol a llorweddol – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 2.1.1 Keyboard: ni ellir cyrchu'r togl 'Chwilio' ar rai penawdau tudalen gan ddefnyddio'r bysellfwrdd – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 1.4.10 Reflow: ni fydd tablau'n ail-lifo mewn un golofn pan ydych chi'n newid maint ffenestr y porwr – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 1.4.12 Text Spacing: ni allwch addasu uchder llinell neu fwlch testun – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 2.4.1 Bypass Blocks: ni allwch neidio i'r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 1.3.1 Info and Relationships: nid oes gan rai tablau benawdau rhesi – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 2.1.1 Keyboard: mae rhywfaint o ffocws bysellfwrdd ar goll – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 1.4.3 Contrast (minimum): nid oes gan rai dolenni 'Neidio i gynnwys' ddigon o gyferbyniad lliw – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 2.4 Navigable: nid yw rhai elfennau rhestr yn cael eu cyhoeddi gan ddarllenwyr sgrin – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 1.4.3 Contrast (minimum): mae gan rai tudalennau gyferbyniad lliw nad yw'n bodloni safonau WCAG – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 1.1.1 Non-text Content: Nid oes gan rai delweddau destun amgen da – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • WCAG 1.3.1 Info and Relationships: Nid yw rhai botymau wedi'u nodi'ngywir – Disgwylir atgyweiriad erbyn 31/03/2025
  • PDF Techniques | Techniques for WCAG 2.0 (w3.org) mae llawer o ddogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch i feddalwedddarllenydd sgrin – Mae'n bosibl na fydd cyfrifon ac adroddiadau a uwchlwythwyd gan drydydd parti yn hygyrch. Mae hyn yn rhywbeth sydd y tu hwnt i gwmpas gwaith y Comisiwn Elusennau a dylid gofyn yn uniongyrchol i’r elusen am fersiwn hygyrch.

Mae'r rhan fwyaf o'r wefan yn gwbl hygyrch, gan gynnwys i ddarllenwyr sgrin a'r rhai sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio dewisiadau amgen testun ar gyfer dolenni, delweddau a botymau. Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan yn syml i'w deall.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad ei baratoi ym mis Awst 2020.

Cafodd y datganiad ei adolygu ddiwethaf ar 19 Medi 2024.

Cynhaliwyd archwiliad gan Nomensa ar 10 math unigryw o dudalennau ar y gofrestr, gan sicrhau bod holl ymarferoldeb y safle'n destun profion. Dewiswyd y tudalennau hyn gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr. Cynhaliwyd yr archwiliad ar gyfrifiadur bwrdd gwaith gan ddefnyddio Google Chrome.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar:

0300 066 9197 neu e-bost UserResearchTeam@charitycommission.gov.uk

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).