Asedau a rhwymedigaethau HEALTHCARE FINANCIAL MANAGEMENT ASSOCIATION

Rhif yr elusen: 1114463
Mae'r adroddiad gan yr elusen wedi'i ddiweddaru (ar amser)
Diffiniadau ar gyfer asedau a rhwymedigaethau
Asedau hunan ddefnydd

Asedau yw’r rhain, ac nid buddsoddiadau, a ddelir am fwy na 12 mis ac a ddefnyddir i redeg a gweinyddu’r elusen megis adeiladau, swyddfeydd, arddangosfeydd a gosodiadau a ffitiadau.

Buddsoddiadau Tymor Hir

Buddsoddiadau yw asedau a ddelir gan yr elusen gyda’r unig nod o gynhyrchu incwm a ddefnyddir ar gyfer eu dibenion elusennol megis cyfrifon cadw, rhanddaliadau, eiddo a rentir ac ymddiriedolaethau unedau.
Ailbrisir asedau buddsoddi bob blwyddyn ac fe’u cynhwysir yn y fantolen ar eu gwerth marchnad cyfredol.
Delir buddsoddiadau tymor hir am fwy na 12 mis.

Asedau eraill

Asedau yw’r rhain a ddelir yn gyffredinol am lai na 12 mis megis arian parod a balansau banc, dyledwyr, buddsoddiadau i'w gwerthu o fewn y flwyddyn sydd i ddod a stoc masnachu.

Ased neu rwymedigaeth cynllun pensiwn budd a ddiffiniwyd

Arian dros ben neu ddiffyg yw hwn mewn unrhyw gynllun pensiwn budd a ddiffinnir sy’n cael ei weithredu ac mae’n cynrychioli ased neu rwymedigaeth tymor hir botensial.

Cyfanswm rhwymedigaethau

Dyma’r holl symiau sy’n ddyledus gan yr elusen ar ddyddiad y daflen balans i drydydd partïon megis biliau sy’n ddyledus ond heb eu talu hyd yn hyn, gorddrafftiau banc a benthyciadau a morgeisi.

" role="img"> Mae testun amgen ar gyfer y graffeg gynfas hon yn y tabl data isod.
Asset / Liability 30/06/2019 30/06/2020 30/06/2021 30/06/2022 30/06/2023
Asedau hunan ddefnydd £3.73m £3.62m £4.09m £4.36m £4.63m
Buddsoddiadau tymor hir £2.26m £2.23m £2.23m £1.91m £1.94m
Cyfanswm asedau £3.71m £2.93m £3.69m £5.92m £7.21m
Ased neu rwymedigaeth cynllun pensiwn budd a ddiffiniwyd £0 £0 £0 £0 £0
Cyfanswm rhwymedigaethau £5.32m £5.18m £6.06m £7.94m £9.12m