Manylion am gwcis ar blatfformau’r Comisiwn Elusennau
Mae’r Comisiwn Elusennau yn defnyddio ‘cwcis’ i gasglu gwybodaeth am y ffordd yr ydych yn defnyddio ein gwasanaethau. Dysgwch fwy am y cwcis rydym yn eu defnyddio, beth yw eu pwrpas a phryd fyddant yn dod i ben.
Mae dau fath o gwci:
-
cwcis sesiwn, mae’r rhain yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau eich porwr
-
cwcis cyson, mae’r rhain yn para’n hirach ac yn dod i ben ar ôl cyfnod penodol o amser
Cwcis sy’n mesur defnydd o’r wefan
Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics (Universal Analytics) i gasglu gwybodaeth ddienw am y ffordd yr ydych yn defnyddio Cofrestr Elusennau a gwasanaethau digidol y Comisiwn Elusennau. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau bod ein gwasanaethau a’r wefan yn bodloni anghenion eu defnyddwyr, ac i’n helpu i roi gwelliannau ar waith.
Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio neu rannu’r data am y ffordd yr ydych yn defnyddio ein gwasanaethau.
Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am:
-
y tudalennau yr ydych yn ymweld â nhw
-
pa mor hir rydych chi’n treulio ar bob tudalen
-
sut cyrhaeddoch chi’r gwasanaeth
-
beth fyddwch chi’n ei glicio wrth ymweld â’r safle a/neu ddefnyddio’r gwasanaeth
-
y dolenni rydych chi’n eu hagor mewn e-byst gennym ni
Mae’r data rydym yn ei gasglu ar ymddygiad defnyddwyr yn cael ei ddefnyddio i wella ein gwasanaethau. Er enghraifft, i sicrhau eu bod yn hawdd eu deall, yn hygyrch ac yn cyflawni eu swyddogaeth. Rydym yn cadw’r data am hyd at 2 flynedd at y diben hwn. Mae’r cyfnod hwn yn weithredol o’r pwynt diwethaf yr oeddech yn defnyddio’r wefan. Nid yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn casglu data gan gwcis a allai fod yn ddull adnabod, megis cyfeiriadau IP.
Mae Google Analytics yn gosod y cwcis canlynol.
Enw | Diben | Dod i ben |
---|---|---|
_gid |
Cwci Google Analytics a ddefnyddir i adnabod defnyddwyr sy’n pori |
24 awr |
_ga |
Cwci Google Analytics a ddefnyddir i adnabod defnyddwyr sy’n pori |
2 flynedd |
_gat |
Cwci Google Analytics a ddefnyddir i gyfyngu ar ganran y ceisiadau |
1 funud |
_gat_UA |
Cwci Google Analytics a ddefnyddir i gyfyngu ar ganran y ceisiadau |
1 funud |
Yn ogystal, os byddwch yn rhannu dolen at dudalen ar ein gwasanaethau, mae’n bosib y bydd y gwasanaeth rydych yn rhannu’r ddolen arno (megis Facebook) yn gosod cwci. Ni allwn reoli cwcis a osodir gan wefannau eraill - gallwch eu diffodd nhw, ond nid trwom ni.
Cwcis sy’n cofio eich gosodiadau
Mae’r cwcis hyn yn gwneud pethau fel cofio eich dewisiadau a’r rhai a roddwyd ar waith, er mwyn gwneud eich profiad o wefan y Comisiwn Elusennau yn un personol.
Cwcis cwbl angenrheidiol
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi swyddogaethau craidd megis diogelwch, rheoli rhwydweithiau a hygyrchedd.
Enw | Diben | Dod i ben |
---|---|---|
GUEST_LANGUAGE_ID |
Mae hwn yn gosod yr iaith y byddwch yn ei gweld ar y wefan (Cymraeg neu Saesneg) |
1 flwyddyn |
LFR_SESSION_STATE_20105 |
Cwci sesiwn defnyddiwr, XXXXX yw ID y defnyddiwr |
Pan fyddwch yn cau eich porwr |
JSESSIONID |
Cael ei ddefnyddio i gynnal sesiwn defnyddiwr dienw ar y gweinydd. |
Pan fyddwch yn cau eich porwr |
ApplicationGatewayAffinity |
Cael ei ddefnyddio i gynnal sesiynau defnyddwyr. Caiff y cwci hwn ei osod gan y wefan hon gan ei bod yn rhedeg ar blatfform cwmwl Windows Azure. Mae’n sicrhau bod traffig porwyr ar-lein yn cael ei gadw ar un gweinydd mewn rhai rhannau o’r wefan. |
Pan fyddwch yn cau eich porwr |
ApplicationGatewayAffinityCORS |
Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio gan Raglen Gateway Windows Azure ochr yn ochr ag ApplicationGatewayAffinity er mwyn cynnal sesiwn ludiog hyd yn oed os yw’r ceisiadau’n dod o leoedd gwahanol (gwybodaeth a dderbynnir gan adnodd gydag enw parth gwahanol). |
Pan fyddwch yn cau eich porwr |
Neges am gwcis
Mae’n bosib y byddwch yn gweld baner pan fyddwch yn ymweld â’r Gofrestr Elusennau a’r Gwasanaethau Digidol yn gofyn i chi dderbyn cwcis neu adolygu eich gosodiadau. Byddwn yn gosod cwcis fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi gweld y faner hon, a bod dim angen ei dangos eto. Bydd hefyd yn arbed eich gosodiadau.
Enw | Diben | Dod i ben |
---|---|---|
COOKIE_SUPPORT |
Mae hwn yn storio’r dewisiadau a ddewisoch wrth bori’r we |
1 flwyddyn |
cookie_consent |
Mae hwn yn arbed eich gosodiadau cydsyniad cwcis |
1 flwyddyn |
Cwcis a gesglir gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth
Mae’r wefan GOV.UK, sy’n cael ei rhedeg gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS), yn cynnal holl gynnwys a chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, a hefyd yn defnyddio meddalwedd Google Analytics. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gasglwyd gan GDS yn eu polisi cwcis.
Dysgwch ragor am wybodaeth breifatrwydd gan Google Analytics.
Dysgwch ragor gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am sut i reoli cwcis.
Newidiwch eich gosodiadau
Gallwch newid pa gwcis yr ydych yn fodlon i ni eu defnyddio.
Dywedwch wrthym a ydych chi’n derbyn cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio Cofrestr Elusennau a Gwasanaethau Digidol y Comisiwn Elusennau, megis y tudalennau rydych chi’n ymweld â nhw.