Chwilio’r gofrestr elusennau
Dod o hyd i wybodaeth am elusennau a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru, gan gynnwys
- yr hyn y mae’r elusen yn ei wneud
- ymddiriedolwyr
- gwybodaeth am gyllid, megis incwm a gwariant
- unrhyw gamau y mae’r Comisiwn Elusennau wedi’u cymryd yn erbyn yr elusen
Gallwch allforio hyd at 10,000 o gofnodion
Dod o hyd i elusen >Cofrestr elusennau cyfunol
Gallwch edrych ar yr elusennau sydd wedi hysbysu’r Comisiwn Elusennau eu bod wedi cyfuno neu wedi trosglwyddo eu hasedau i elusen arall ar Gofrestr elusennau cyfunol
Chwilio’r gofrestr yn ôl etholaeth
Mae’r chwiliad hwn yn caniatáu i chi ddod o hyd i elusennau sy’n seiliedig ar:
- god post eu cyswllt a enwir
- etholaeth seneddol y cyswllt a enwir
- ardal awdurdod lleol y cyswllt a enwir
Mae llawer o elusennau’n gweithredu mewn ardaloedd lleol bach. Ar gyfer elusennau sy’n gweithio mewn ardaloedd cyfyngedig bydd y cyswllt yn aml yn byw yn neu’n agos at yr ardal honno a bydd y chwiliad hwn yn eich helpu i ddod o hyd i elusennau o’r fath.
Noder na fydd y chwiliad yn nodi’r holl elusennau sy’n gweithredu yn eich ardal. I ddod o hyd i brif elusennau cenedlaethol, elusennau rhyngwladol a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau allweddol dylech ddefnyddio’r brif dudalen chwiliad uwch.
Setiau Data Cofrestr
Os ydych yn ymchwilydd neu â diddordeb fel arall mewn defnyddio data Cofrestr Elusennau’r Comisiwn Elusennau i edrych ar wybodaeth ar gyfer ein helusennau i gyd, mae’r holl set ddata ar gael i’w lawrlwytho gan ddefnyddio’r ddolen “Edrych ar y set ddata” isod.
Mae’r Comisiwn Elusennau’n cyhoeddi tri phrif fath o ddata:
Edrych ar y set ddata
Mynd i’r rhestr 10 uchaf
Edrych ar ddata sector
Defnyddwyr API Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
Mae API Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn eich galluogi i adalw gwybodaeth ynghylch elusennau. Mae'r data a gewch yn fyw ac yn amser real, ac mae'n hawdd i'w ddefnyddio a'i ddeall.
Dywedwch wrthym a ydych chi’n derbyn cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio Cofrestr Elusennau a Gwasanaethau Digidol y Comisiwn Elusennau, megis y tudalennau rydych chi’n ymweld â nhw.